top of page

Bwydydd yn y Dyfodol:

Uwch Ganolfan Ddadansoddol

Cyfleusterau pwrpasol sy’n cefnogi anghenion dadansoddol prosiectau Bwydydd yn y Dyfodol, a rhyngweithio ag Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU) Prifysgol Aberystwyth, ar gyfer astudiaethau ymyriadau bwyd.

Profi cyfansoddiadol datblygedig mewn bioburo ar gyfer datblygu cynhwysion bwyd newydd a chymorth ar gyfer y broses eplesu:

  • Dadansoddi cynnwys cemegol - gan gynnwys mwynau, siwgrau, asidau organig, alcohol, lipidau, statws ocsidiad lipid, gallu pro-ocsidiol a gwrth-ocsidiol. â€‹

  • Proffilio cynhwysfawr ac egluro strwythurol – Monitro echdyniad nutraceutical neu brosesau eplesu gan ddefnyddio LC cydraniad uchel iawn a sbectrometreg más GC.

  • Sbectrometreg más triphlyg pedrypol – Meintoliad targedig o bioactives wrth ddatblygu cynhwysion crai bwyd gweithredol.

Ansawdd a chyfansoddiad bwyd:

  • Gallu dadansoddol i bennu cyfansoddiad bwyd – Profion pwrpasol i reoli ansawdd prosesau.

  • Darganfod a dilysu bioactives bwyd - Proffilio bwydydd yn gynhwysfawr i ddarganfod a dilysu (lipidomics a metabolomics) biofarcwyr amlygiad dietegol a chyfansoddion swyddogaethol bioactive.

  • Proffilio lipidau ac asidau brasterog yn gynhwysfawr – Dadansoddi cydrannau braster-hydawdd,  ffracsiynau lipidau.

Swyddogaeth bwyd a honiadau iechyd:

  • Dadansoddi biofarciwr amlygiad dietegol -  Dadansoddiadau targedig,  mesurol o samplau wrin a gwaed i asesu cydymffurfiad mewn astudiaethau ymyriadau bwyd ac i fesur biofarcwyr ymddygiad bwyta cyffredinol mewn treialon clinigol gyda bwydydd newydd. 

  • Asesu bioargaeledd a metabolaeth - Pennu tynged fetabolig bioactives/nutraceuticals bwyd mewn cyfranogwyr treialon clinigol.

  • Asesu statws maethol - Dadansoddeg biocemeg glinigol sy’n ategu asesiad statws maethol.

Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU):

  • Treialon clinigol ymyriadau bwyd – Cyfleusterau graddau bwyd ar gyfer astudiaethau ymyrryd sy’n archwilio honiadau iechyd cysylltiedig â bwydydd newydd.

  • Asesu cyfansoddiad y corff – Gan gynnwys delweddau DEXA a graddfeydd ‘smart’ i fesur más y corff main, cynnwys braster, dwysedd esgyrn a ffenoteip metabolig.

  • Mesur gallu corfforol – Asesu effaith cymeriant bwyd ar swyddogaeth y corff – o athletwyr i’r henoed.

  • Asesu cymeriant dietegol - Offer ar-lein a phrofion moleciwlaidd i fesul cymeriant dietegol unigolion a phoblogaethau yn gywir.

  • Biocemeg glinigol - Mesur effaith bwydydd newydd ar fetabolaeth a ffisioleg, gan gynnwys rhyngweithio â labordai’r GIG sy’n darparu dadansoddiadau achrededig.

bottom of page