top of page

ein partneriaid

Mynediad at gymysgedd teilwredig o wybodaeth academaidd ac arbenigedd masnachol arbenigol... 

Mae ein tîm yn cynnwys detholiad o academyddion blaenllaw o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth - canolfan ymchwil ac addysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy’n darparu canolfan unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang. Caiff y wybodaeth academaidd hon ei hategu gan ein tîm o arbenigwyr masnachol a’r diwydiant o Glwstwr Maeth Cymru a BIC Innovation Ltd, gyda chryfderau allweddol mewn rheoli ymchwil a datblygu, arloesedd, prosesau gweithgynhyrchu, rhyngwladoli, allforio, cyllid a chynlluniau busnes.

Partneriaid y prosiect...

​

F&D NUTRI-WALES Cluster Logo small.jpg

Cysylltu cynhyrchwyr bwyd a diod, academia a’r llywodraeth

Mae Clwstwr Maeth Cymru yn cysylltu cynhyrchwyr bwyd a diod, academia a’r llywodraeth i ganolbwyntio ar ymchwil a datblygu, arloesedd, mewnwelediad a deallusrwydd, a thwf yn y farchnad lle mae bwyd, iechyd, maeth a lles yn cydgyfarfod. Mae’r clwstwr yn defnyddio arbenigedd prifysgolion Cymru, iechyd cyhoeddus, a chanolfannau bwyd, i ysgogi mewnwelediad ac ymchwil cydweithredol, arloesedd a datblygu cynhyrchion, a mynediad at farchnadoedd newydd. 

  • Facebook - White Circle
  • LinkedIn - White Circle
  • Twitter - White Circle
IBERS ABER.jpg

Mae IBERS yn ganolfan ymchwil ac addysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol

Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ganolfan ymchwil ac addysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy’n darparu canolfan unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang, fel diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil ar enynnau a moleciwlau, organebau cyfan, a’r amgylchedd.

  • Facebook - White Circle
  • LinkedIn - White Circle
  • Twitter - White Circle
BIC SMALL.jpg

Trawsnewid perfformiad busnes ac arwain prosiectau arloesedd

Mae BIC Innovation yn cyflwyno Clwstwr Maeth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Eu cryfderau allweddol yw rheoli ymchwil a datblygu, arloesedd, prosesau gweithgynhyrchu, rhyngwladoli, allforio, cyllid a chynlluniau busnes; maent yn defnyddio eu harbenigedd swyddogaethol a’u gwybodaeth am y sector, ynghyd â pherthnasoedd cryf â’r sector cyhoeddus a’r diwydiant, i feithrin busnesau cynaliadwy. 

  • Facebook - White Circle
  • LinkedIn - White Circle
  • Twitter - White Circle
wefo small.jpg

Gweinyddir Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO)

Caiff y prosiect hwn ei ariannu trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru

​

Yn 2014–2020, bydd Cymru yn elwa ar dros £2bn o fuddsoddiad o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.

​

Mae’r cronfeydd yn helpu i gefnogi pobl i gael gwaith, hyfforddiant a chyflogaeth ieuenctid, ac maent yn cefnogi ymchwil ac arloesi, cystadleurwydd ymhlith busnesau bach a mawr (BBaCh), ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, a chysylltedd a datblygu trefol.   

  • Facebook - White Circle
  • LinkedIn - White Circle
  • Twitter - White Circle
WG SMALL.jpg

Ei nod yw cynyddu’r diwydiant o 30% erbyn 2020

Nod Llywodraeth Cymru yw helpu tyfu, hyrwyddo a gwella diwydiant bwyd a diod Cymru, wrth iddo ymdrechu i gyrraedd targed o 30% o dwf - neu £7bn mewn gwerthiannau - erbyn 2020. Trwy weithio gyda’r diwydiant a defnyddwyr, mae’r Llywodraeth, trwy gydweithio, yn bwriadu sicrhau darpariaeth o ddewisiadau bwyd iachach ar gyfer defnyddwyr Cymru. Un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw “Cymru iachach”. Y nod yw sicrhau cymdeithas lle gwneir y mwyaf o lesiant, a lle deallir dewisiadau a fydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

  • Facebook - White Circle
  • LinkedIn - White Circle
  • Twitter - White Circle
bottom of page