• Natalie Rouse

#20PlantIach - Dydd Gwener





Brecwast

Menyn cnau, 2 dafell o dost ac afal wedi'i sleisio



Cinio

Pasta Pob Tiwna



Pryd Nos

Tatws Siaced gyda Tsili Llysieuol


Dull microdon

Gwnewch yn siŵr eich bod yn golchi ac yn sychu'ch tatws yn drylwyr cyn ei bigo â fforc i adael i'r stêm ddianc! Rhowch yn y ficrodon ar blât (sydd yn ddiogel i ddefnyddio yn y ficrodon) am 4 munud, trowch drosodd a choginiwch am 4 munud arall neu nes bod y daten yn teimlo'n feddal drwyddi draw. Gadewch i eistedd am 2 funud.


Dull popty

Cynheswch y popty i 200 ° C / GM6. Golchwch a sychwch eich tatws cyn ei bigo â fforc.

Pobwch yn y popty am oddeutu awr - yn dibynnu ar faint eich tatws.


Mae bwyd dros ben yn gwneud llenwadau tatws wedi'u pobi yn wych, mae'r opsiynau'n ddiddiwedd! Ychwanegwch lenwadau poeth neu oer fel caws, tiwna a india-corn, tsili, cyw iâr neu ffa.




Peidiwch ag anghofio rhannu eich creadigaethau gyda ni gan ddefnyddio #20PlantIach ar gyfryngau cymdeithasol!

0 views
Cysylltu â ni

© 2019 BIC Innovation Ltd

  • Black LinkedIn Icon
  • Black Twitter Icon
  • Black YouTube Icon

BIC Innovation Ltd

Parc Gwyddoniaeth Menai, Ynys Môn, LL60 6AG

Parc Technoleg Pencoed, Pen-y-bont, CF35 5HZ

​​

Ffon: 01248 671 101​ / 01656 861 536

futurefoods@bic-innovation.com

1/2