top of page

#£20PlantIach - Wythnos 3

Helo, Natalie ydw i, a chroeso i drydedd wythnos her Swper yr Haf. Os ydych chi’n ymuno â ni am y tro cyntaf, be am i mi ddechrau gydag ychydig o gefndir....


Pan gafodd ei gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymestyn y cynllun prydau ysgol £19.50 drwy wyliau’r haf, roeddwn i wrth fy modd gan fy mod yn siŵr bod hyn yn rhyddhad mawr i lawer o rieni.


Ond fel maethegydd, ac fel mam, fe wnaeth dau gwestiwn groesi fy meddwl...

  1. Pa mor bell y gallwch chi ymestyn £19.50 dros wythnos?

  2. Ydy hi’n bosib cyrraedd y canllawiau maeth sy’n cael eu hargymell ar y swm hwn o arian?

Felly, penderfynais roi cynnig arni a rhoi fy ngwybodaeth fel maethegydd ar waith, a dim ond un ffordd oedd yno o ateb fy nghwestiynau. Felly...fe es i ati i brofi hyn ac i rannu fy nhaith gyda chi yn y gobaith y bydd hefyd yn helpu i leihau ychydig ar y pwysau sy’n gysylltiedig â chynllunio prydau maethlon i’ch teuluoedd gydag ychydig o arian. Felly, dyma roi cynnig arni:


Wythnos 3

Yr hyn a ddysgais yr wythnos hon ... Sianelwch eich ditectif mewnol!


Yr wythnos ddiwethaf siaradais am goginio mewn swp fel ffordd fwy cost effeithiol ac amser effeithiol o baratoi prydau. Yr wythnos hon penderfynais weld sut gallwn i fod yn fwy cynnil gydag arian. Rydw i wedi cyflwyno blasau newydd i gynllun prydau a rhestr siopa’r wythnos hon: eitemau fel perlysiau ffres neu sbeisys sy’n cynnig profiadau blasu mwy cyffrous, ond sydd hefyd yn gallu bod yn ddrud os ydych chi’n ceisio siopa’n ddarbodus. Felly, sut allwn ni wneud yn siŵr ein bod ni’n cael y gwerth gorau am arian, gan greu ryseitiau blasus sy’n annog plant i roi cynnig ar flasau gwahanol. Penderfynais roi fy het ditectif ymlaen a mynd i chwilio am fy nghyfrifiannell....


Mae archfarchnadoedd wedi’u cynllunio i’n hannog i wario mwy. Maen nhw’n defnyddio ffactorau dylunio gwyddonol ar gyfer lleoli cynnyrch gyda’r bwriad o ddal sylw siopwr a chynigion arbennig sy’n ein temtio i brynu mwy. Felly, fy nghyngor cyntaf yw paratoi ymlaen llaw. Dechreuwch drwy edrych yn eich cypyrddau i weld beth sydd gennych chi dros ben ac edrychwch i weld pa ryseitiau y gallwch chi eu creu gyda’r eitemau sydd gennych chi yn eich cypyrddau. Defnyddiwch hwn fel sail ar gyfer dechrau eich cynllun bwyd. Rhestrwch bopeth fydd ei angen arnoch chi o flaen llaw a pheidiwch â chael eich temtio i ychwanegu pethau bach eraill – maen nhw’n gallu bod yn ddrud! Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod pobl sydd yn wastad yn gwneud rhestr siopa dair gwaith yn llai tebygol o orwario na rhai sydd ddim yn gwneud rhestr, gan wario bron i £200 yn llai mewn blwyddyn ar nwyddau.


Nesaf, peidiwch â chael eich denu gan gynigion arbennig a chynigion aml-becyn. Efallai y byddwch chi’n dod o hyd i fargen, ond dydyn nhw ddim ond yn fargen os ydych chi wirioneddol eu hangen. Os oeddech chi eisoes yn bwriadu defnyddio’r eitemau hynny, gwych. Os nad oeddech chi, neu os na fyddwch chi’n gallu eu defnyddio cyn y dyddiad defnyddio erbyn, mae’n aml yn rhatach, ac yn llai gwastraffus, eu prynu’n unigol. Er enghraifft, efallai fod pecyn o 3 pupur yn ymddangos eich bod yn cael mwy o werth am arian na phrynu 1 pupur, ond os ydych chi’n taflu 2 oherwydd nad ydych chi wedi’u defnyddio, yna mae’n wastraff arian.


Wedi dweud hyn, mae prynu mewn swmp yn gallu bod yn fwy effeithiol, yn enwedig o ran eitemau sydd ag oes silff hir fel cynnyrch tun, pasta sych, reis a blawd. Yn aml, byddwch chi’n gweld bod symiau mwy yn fwy cost effeithiol yn y tymor hir. Yn yr achos hwn, defnyddiwch hyn i’ch mantais drwy ddefnyddio’r cynhwysion hyn mewn prydau creadigol yng nghynllun bwyd yr wythnos ganlynol.


Ffordd wych o wirio pris “go iawn” cynigion arbennig yw i gymharu’r pris y kg ar gyfer pob cynnyrch a brand - mae hwn i’w weld ar y labeli ar y silffoedd. Fel hyn gallwch chi weld os ydych chi’n cael y cynnig gorau.


Byddwch yn hyblyg gyda’ch prydau: os oes cynnig gwych ar gynnyrch, allech chi ddefnyddio hwnnw yn lle cynhwysyn arall roeddech chi wedi bwriadu ei brynu? Yn ogystal, edrychwch am ddarnau rhatach o gig. Er enghraifft, efallai eich bod chi wedi cynllunio pryd gyda brest cyw iâr, ond mae cluniau cyw iâr yn aml yn rhatach a gallwch eu defnyddio yn lle’r frest cyw iâr.


Cadwch olwg am sticeri melyn neu eitemau gostyngol, ond cofiwch edrych ar y dyddiad defnyddio erbyn a pheidiwch â’i brynu os nad ydych chi ei angen neu os na fyddwch chi’n ei ddefnyddio mewn pryd. Mae cwponau’n gallu bod yn ffordd wych o arbed arian hefyd. Mae nifer o wefannau a grwpiau ar gyfryngau cymdeithasol yn hapus i rannu gwybodaeth am gwponau a chynigion gwych – dilynwch nhw.


Edrychwch ar y silffoedd gwaelod ac am gynnych yr archfarchnad ei hun – ond peidiwch â chymryd mai nhw fydd y rhataf bob amser. Ac hefyd: cofiwch edrych ar y goleuadau traffig ac ar y wybodaeth am faeth. Weithiau mae’n werth gwario ceiniog neu ddwy yn fwy os ydy’r cynnyrch o ansawdd maethol gwell.


Yn olaf, dysgwch o fy nghamgymeriad...bwytwch cyn mynd i siopa. Mae bod yn llwglyd tra’n siopa yn golygu eich bod chi’n llawer mwy tebygol o daflu pethau ychwanegol i mewn i fodloni eich chwant!


I’ch rhoi chi ar ben ffordd yr wythnos hon, dyma’r cynllun pryd:



A dyma’r rhestr siopa. Un nodyn olaf, cofiwch fod prisiau yn amrywio yn ôl archfarchnad ac felly efallai y byddan nhw’n wahanol i’r prisiau sy’n cael eu hysbysebu. Mae’r rhestr siopa’n cynnwys y cynhwysion sydd eu hangen ar gyfer y cynllun pryd hwn i 2 blentyn ysgol gynradd. Dyblwch faint y dogn a’r cynhwysion ar gyfer oedolion.



Neu gallwch lawrlwytho'r Pecyn Wythnos 3 sy'n cynnwys y cynllun prydau bwyd, y rhestr siopa a'r ryseitiau yma:






Byddwch yn Greadigol


Dim ond un peth sydd ar ôl i chi ei wneud! Rhowch gynnig arni, byddwch yn greadigol, a dechreuwch rannu eich syniadau, ryseitiau a phrydau bwyd gyda ni trwy ddefnyddio #20PlantIach ar gyfryngau cymdeithasol!



Tan yr wythnos nesaf, coginio hapus, a bwyta'n hapus!

2 views0 comments

Comments


bottom of page