Mae halen, fwy neu lai, ym mhopeth yr ydym yn ei fwyta. O fara i rawnfwydydd a chynnyrch llaeth, mae'n ymddangos nad oes dim dianc rhagddo. Oeddech chi'n gwybod bod dros 75% o'r holl halen sy’n cael ei fwyta yn dod o'r prydau yr ydym yn eu bwyta y tu allan i'r cartref neu o fwydydd wedi'u prosesu? Ac mae hyd yn oed 8% o'r halen a fwyteir yn ddyddiol yn dod o lysiau a thatws (Action on Salt). Felly, mae'n bwysig monitro faint o halen a fwyteir, gan fod bwyta gormod o halen yn gallu arwain at gymhlethdodau mwy difrifol yn nes ymlaen.
Beth yw'r lefel a argymhellir?
Mae lefel halen yn amrywio, yn dibynnu ar oed. Er enghraifft, ni ddylai deiet babanod gynnwys llawer o halen, gan nad yw eu harennau wedi'u datblygu'n llawn, ac felly nid yw eu cyrff yn gallu ei brosesu. Mae'r tabl isod yn dangos y lefel ddyddiol o halen sy’n cael ei argymell ar draws ystod oedran.
Nid ydym yn dweud y dylid osgoi halen, gan fod angen halen ar ein cyrff i gyflawni swyddogaethau penodol e.e. cyfangu ac ymlacio’r cyhyrau, i gynnal ysgogiadau nerfol a chynnal y cydbwysedd cywir o ddŵr a mwynau (Harvard). Ar y llaw arall, mae'n hysbys bod Prydeinwyr yn bwyta gormod o halen, ar gyfartaledd traean yn fwy na'r hyn a argymhellir. Er mwyn helpu i leihau faint a fwyteir a chefnogi defnyddwyr i wneud dewisiadau iachach, mae cyfle gwirioneddol i gynhyrchu cynhyrchion sy’n cynnwys llai o halen.
Mae’r diagram isod yn dangos canllawiau GIG Cymru ar fonitro faint o halen yr ydym yn ei fwyta.
Mae bwyta gormod o halen yn gallu bod yn gamgymeriad hawdd ei wneud, gan ei fod yn cael ei ychwanegu at y rhan fwyaf o bethau ar restr siopa wythnosol cwsmeriaid cyn iddynt hyd yn oed estyn am y potyn halen.
Pam mae halen yn elfen mor bwysig mewn bwyd?
Os ydi gormod o halen mor niweidiol i iechyd, pam ei fod yn cael ei ychwanegu at fwy neu lai, yr holl fwydydd a fwyteir? Y rheswm am hynny yw bod mwy o ddefnydd i halen na dim ond ychwanegu ychydig o flas at bryd diflas ...
Gall halen gadw bwyd ...
Drwy ychwanegu halen at fwyd, gall newid lefel y dŵr sydd mewn bwydydd a gall hyn, yn ei dro, atal microbau rhag defnyddio dŵr fel maetholyn i ffynnu. O ganlyniad i hyn, ni all pathogenau dyfu os oes halen yn bresennol. Mae llawer o fwydydd fel pysgod a chigoedd yn defnyddio'r dechneg hon. Mae hefyd yn helpu i ymestyn oes silff cynhyrchion.
Gwella ansawdd
Mae halen yn gallu newid ansawdd a strwythur rhai bwydydd y caiff ei ychwanegu atynt. Os cymerwn fara fel enghraifft, pan ddaw halen i gysylltiad â 'r proteinau o fewn y cymysgedd bara, mae'n gallu newid ei strwythur a'r ffordd y mae’n rhyngweithio ag elfennau eraill, fel dŵr a brasterau.
Pan ychwanegir y lefel gywir o halen, gall bara edrych yn gadarnach, mae gwell ansawdd i gaws a gall cig edrych yn frau. Mae'r cynhyrchion hyn wedyn yn dod yn fwy apelgar i'r cwsmer, gan eu temtio i brynu.
Blas
O ran awydd bwyd, mae pobl yn tueddu i fod ag awydd bwydydd halltach ac maent yn credu eu bod yn fwy blasus. Mae halen mewn pryd o fwyd yn gallu cydbwyso'r blas, atal blas chwerw a chydbwyso'r melyster.
Effaith halen ar fwyd
Fel yr esboniwyd yn flaenorol, mae gan halen y gallu i newid strwythur proteinau os caiff ei ychwanegu at gynhyrchion fel cig. Felly, mae halen yn gyfrwng sy’n gwneud i’r cig ddal at ei gilydd, gan gadw mwy o ddŵr a’i atal rhag colli braster.
Beth am ddewisiadau eraill yn lle halen?
Mae llawer o waith ymchwil wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf ar ddefnyddio 'sodiwm sy'n seiliedig ar botasiwm' yn lle halen. Canlyniad yr ymchwil oedd y gallai defnyddio deunydd o'r fath leihau'r risg o strôc ac o drawiad ar y galon.
Mewn astudiaeth ddiweddar a gynhaliwyd gan Ipsos MORI ar gyfer Nutri Cymru, darganfuwyd y gallai gwymon mâl fod yn ddewis iach a chyfleus yn lle halen. Pan ofynnwyd y cwestiwn i'r defnyddwyr, roedd 68% yn fodlon rhoi cynnig ar ddefnyddio gwymon mâl yn lle halen gan ei fod yn ddewis iach a allai leihau pwysedd gwaed. Un bonws ychwanegol o ddefnyddio gwymon yn lle halen yw ei fod yn llawn ïodin, yn faetholyn hanfodol ar gyfer deiet iach – yn enwedig i lysieuwyr a feganiaid.
Beth mae defnyddwyr yn ei feddwl?
Rhagwelir y bydd y duedd i ddefnyddwyr fyw'n iachach yn parhau i ffynnu. Gan ei fod wedi’i brofi bod bwyta mwy o halen na’r hyn a argymhellir yn gallu achosi pwysedd gwaed uchel a chynyddu'r risg o gael clefyd y galon a strôc, mae defnyddwyr yn anelu at wella eu lles corfforol a meddyliol gyda chymorth bwyd a diod (Mintel) .
A oes gennych syniad ar gyfer lleihau faint o halen yr ydych yn ei fwyta ond bod angen rhywfaint o help a chyngor arnoch chi? Rydym wrth law i drafod prosiectau a darparu cymorth, gallwn gynnig gwybodaeth, arbenigedd a chymorth datblygu prosiect i chi. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw neilltuo rhywfaint o amser. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â bwyd-food@bic-innovation.com
Comments