top of page
  • nicolethomas7

Beth yw Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd wedi’i Reoli?

Mae Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd wedi’i Reoli (CEA) wedi bod yn gyffredin drwy gydol 2019 ac am reswm da hefyd. Mae’r dull newydd ac arloesol hwn o dyfu cynnyrch i’w fwyta yn synnu llawer o bobl ac ymhlith rhai o’i fanteision mae’r gallu i dyfu bwyd mewn ardaloedd trefol a lleihau milltiroedd bwyd.


Felly, beth yw amaethyddiaeth mewn amgylchedd wedi’i reoli? I ddechrau, does dim angen tractor arnoch chi, nac erwau o dir na chi defaid. Mae Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd wedi’i Reoli yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio’r broses o dyfu planhigion dan do, gan ddefnyddio technoleg i greu’r amodau tyfu gorau posibl. Mae hefyd yn ffordd o dyfu cnydau drwy gydol y flwyddyn, heb orfod dibynnu ar ragolygon y tywydd.


Un o’r cwestiynau niferus ynghylch y ffordd dra modern hon o dyfu ein llysiau a’n ffrwythau yw pam ei bod wedi dod mor boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf? Ar wahân i’r rhesymau amlwg o allu rheoli’r rhan fwyaf o agweddau ar amgylchedd y cnwd o gymharu â dulliau traddodiadol, mae sawl rheswm pam bod pobl yn troi at Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd wedi'i Reoli.


Mae prinder llafur yn y sector garddwriaeth ac amaethyddiaeth yn cynyddu, gyda mwy o bobl ifanc yn dewis addysg uwchradd ac addysg uwch dros brentisiaethau. Credir hefyd bod oriau hirach a diwrnodau gwaith afreolaidd yn annog pobl i beidio â dewis gyrfa ym myd amaethyddiaeth.


Mae newid hinsawdd hefyd yn effeithio ar allu ffermwyr i dyfu cnydau llwyddiannus. Bydd y llifogydd trychinebus a darodd ogledd Lloegr ym mis Tachwedd wedi cael effaith niweidiol ar y tir ac o ganlyniad, bydd yn effeithio ar lwyddiant cnydau am gryn amser. Gan siarad â’r Telegraph, cyfaddefodd y ffermwr Henry Ward o Lincoln, yr effeithiodd y llifogydd ar ei dir, na fydd yn gallu tyfu cnydau ar ei dir am o leiaf 12 mis. Bydd hyn yn ei dro yn cael effaith andwyol ar ei sefyllfa ariannol.

Gan ei bod yn dod yn fwyfwy anodd diwallu’r angen cynyddol am fwyd cynaliadwy, mae’n debyg bod Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd wedi’i Reoli yn ateb y broblem. O gofio hyn, mae archfarchnadoedd y DU fel pe baent yn croesawu’r cysyniad, gan fod Marks and Spencer wedi dechrau cyflwyno ffermio trefol yn eu siopau yn Llundain, gan gynnig basil, persli, mintys a choriander.


Felly, yn gryno, beth yw manteision amaethyddiaeth mewn amgylchedd wedi’i reoli?


Gwell maeth a blas


Drwy reoli amgylchedd y cnwd, mae’n haws sicrhau y bydd y cnwd o werth ac o safon uchel.


Gellir tyfu cnydau drwy gydol y flwyddyn


Does dim rhaid aros am y gwanwyn a dim rhaid poeni am dywydd gwael neu iechyd y pridd. Mewn amgylchedd wedi’i reoli, gellir tyfu cnydau drwy gydol y flwyddyn ac felly mae modd ymdopi â’r galw am gynnyrch.


Lle


Yma yng Nghymru, rydyn ni’n lwcus iawn o gael mannau agored a mynyddoedd o’n cwmpas. Er mor brydferth yw’r mynyddoedd hyn, mae’r hinsawdd ac ansawdd y pridd yn gallu bod yn heriol. Fodd bynnag, mewn ardaloedd mwy trefol, mae lle yn beth prin. Gall amaethyddiaeth mewn amgylchedd wedi’i reoli ddigwydd bron yn unrhyw le, boed mewn warws, mewn sied yn yr ardd, mewn adeiladau uchel iawn neu hyd yn oed yn eich swyddfa. O ganlyniad i hyn, gellir lleihau milltiroedd bwyd. Yng ngeiriau Greta Thunberg, dydych chi byth yn rhy fach i wneud gwahaniaeth.


Defnyddio adnoddau’n effeithlon


Drwy wybod yn union beth sydd ei angen ar y planhigion i dyfu i’w llawn botensial, mae llai o wastraff yn cael ei gynhyrchu o ran dŵr a gwrtaith.


Os oes gennych chi ddiddordeb yn hyn ac os hoffech fod yn aelod o’r Grŵp Diddordeb Arbennig Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd wedi’i Reoli, cysylltwch â ni.

6 views0 comments
bottom of page