Nid oes blwyddyn mewn hanes diweddar sydd wedi ein hatgoffa pa mor bwysig yw iechyd personol, a gwerth y Gwasanaeth Iechyd yr ydym i gyd yn dibynnu arno fel y flwyddyn a fu. Mae mwy o ymwybyddiaeth o sut mae statws iechyd unigolyn yn effeithio ar y system imiwnedd, y tueddiad i gael iechyd gwael a faint o amser mae’n ei gymryd i unigolyn wella, sydd wedi siapio’r broses o fabwysiadu cyfundrefnau iechyd newydd, megis defnyddio gwasanaethau maeth personol, neu ddewis ffurfio arferion iach, cynaliadwy fel cyfnewid deiet.
Mae iechyd meddwl wedi dod yn rhan flaenllaw o’r sgwrs, gyda’r dimensiwn hwn ar iechyd yn cael ei ystyried yr un mor bwysig ag iechyd corfforol erbyn hyn. Gyda chael gwared ar dabŵs wrth drafod iechyd meddwl a materion emosiynol, mae cyfleoedd newydd yn agor i gynhyrchwyr bwyd a diod i gefnogi lles defnyddwyr.
A gyda mwy o bobl yn gweithio gartref nag erioed o’r blaen, ni fu erioed newid mor gyflym i becynnau bwyd, bwyd wrth fynd a dewisiadau bwyd unigolion o ddydd i ddydd.
Hoffem eich gwahodd i’n gweminar ar 27 Ionawr am 12.30pm, a fydd yn canolbwyntio ar y tueddiadau bwyd a diod iechyd mwyaf dylanwadol ar gyfer 2021. Bydd y weminar yn rhoi sylw i dueddiadau sy’n dod i’r amlwg a rhai sy’n bodoli eisoes sy’n debygol o effeithio ar y diwydiant bwyd a diod dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Byddwn yn defnyddio dadansoddiadau o’r farchnad, argraffiadau, arferion defnyddwyr a ffordd o fyw, a sut mae ffocws defnyddwyr wedi newid o ganlyniad i bandemig COVID-19.
Cyflwynir y weminar hon drwy Fwydydd y Dyfodol ac AHFES. Mae Bwydydd y Dyfodol yn rhaglen gyffrous sy’n cael ei chyflwyno gan BIC Innovation a Phrifysgol Aberystwyth, sy’n anelu at ddarparu arbenigedd o'r radd flaenaf o ran ymchwil a datblygu ym meysydd gwyddor bwyd, technoleg a maeth, a hynny i fusnesau bwyd a diod uchelgeisiol yng Nghymru sy'n awyddus i ddatblygu cynnyrch iach sy'n creu marchnad. Mae’r rhaglen gydweithredol hon yn galluogi cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru i fod yn fwy cystadleuol a bod yn sail i dwf a chynaliadwyedd yn y dyfodol.
Mae AHFES, prosiect Eco-Systemau Bwyd Iach Ardal yr Iwerydd, yn bodoli i gefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru, i ddod â chynnyrch bwyd a diod iach newydd ac arloesol i’r farchnad; gan roi hwb i ddewisiadau defnyddwyr i wneud newidiadau iach i’w deiet a’u ffordd o fyw. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd prosiect AHFES, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd dan raglen Interreg, yn cynnig hyfforddiant a chymorth busnes am ddim i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn y Sector Bwyd a Diod Iach o ddiwedd Ionawr 2021 tan fis Awst 2022.
Comments