top of page
  • nicolethomas7

Gwymon ar gyfer y dyfodol

Yma yng Nghymru a bron i 6,000 milltir o Japan, dyw gwymon ddim yn ddieithr i'r deiet traddodiadol. Os ydych chi’n mwynhau rholiau swshi neu fara lawr ar eich taith ar hyd arfordir Cymru, mae gwymon wedi bod yn gyfrinach bron iawn ers canrifoedd. Serch hynny, ewch am dro i siop delicatessen ac ry’ch chi’n debygol iawn o ddod ar draws cynnyrch gwymon ar y silffoedd. Ond pam y poblogrwydd sydyn yn y planhigyn gwyrdd llysnafeddog sy'n drwch ar ein traethau? Dyma gyfle i archwilio'r holl drysorau cudd sydd gan wymon i'w gynnig i ni…




Ar gyfer beth ry’n ni wedi bod yn defnyddio gwymon yn y gorffennol?


Caiff gwymon ei ddefnyddio’n bennaf yn y diwydiannau bwyd a fferyllol, fel ffynhonnell polysacarid. Fodd bynnag, oherwydd ei lefelau uchel o fitaminau, mwynau a ffeibr dietegol a braster isel, mae bellach yn cael ei alw’n ‘fwyd daionus’.


Beth sy'n boblogaidd?


Mae nori yn fath o wymon sy'n cael ei fwyta'n aml, ac sydd i'w weld gan amlaf wedi'i lapio o amgylch swshi. Er ei fod yn wyrdd o ran lliw, mae nori yn cael ei weld fel gwymon coch oherwydd ei gynnwys phycoerythrin a phycocyanin. Nid addurn yn unig yw nori, mae'n cynnwys llawer o brotein ac mae'n cynnwys 1.5 gwaith yn fwy o Fitamin C nag orennau!

Ac mae mwy o nodweddion da – mae gwymon hefyd yn llawn ïodin. Gellir defnyddio ïodin i reoli swyddogaeth y thyroid.



Mae gwymon yn llawer mwy effeithiol na phlanhigion tir o ran cynnwys mwynau hefyd, gan ei fod yn llawn sodiwm, potasiwm, calsiwm a magnesiwm. Mae hefyd yn llawn Fitaminau A, B, C ac E.


O ble daw ein cyflenwad o wymon?


Mae tyfu gwymon yn fasnachol yn ehangu. Nid Japan ac India yn unig sy’n ei dyfu erbyn hyn, ond Ffrainc, Sbaen ac Iwerddon hefyd. O miwsli i fyrbrydau, mae gwymon yn ymddangos mewn eitemau ry’ch chi’n eu prynu fel arfer wrth siopa bob wythnos.


Meithrin dros Natur


Felly pam mae gwymon yn llawn daioni? Mae dŵr y môr yn allweddol. Gall gwymon grynhoi fitaminau a mwynau o'r dŵr môr o'i amgylch; felly, mae'n bwysig iawn gwybod y ffynhonnell ddaearyddol i sicrhau nad yw'r gwymon wedi dod o ardal llygredig iawn.

Mae cynaliadwyedd hefyd yn bwysig a thrwy wybod o ble mae'r gwymon wedi dod, mae'n rhoi tawelwch meddwl i'r defnyddiwr bod yr hyn maen nhw'n ei fwyta yn dod o ffynonellau cynaliadwy.



Beth arall gall gwymon ei gynnig?


Mae'r cynnwys protein, carbohydrad a ffeibr yn amrywio o un math o wymon i’r llall, yn yr un ffordd â phlanhigion tir.


Mae gwymon yn cynnwys amrywiaeth eang o garbohydradau, o startsh a cellwlos i mannan a galactans. Ni all y perfedd dynol dreulio'r rhan fwyaf o'r carbohydradau hyn, felly maen nhw’n gweithredu fel ffynhonnell o ffeibr. Mae ffeibr gyfystyr â 35-50% o gyfanswm pwysau sych gwymon, sy'n sylweddol uwch na'r ffrwythau a'r llysiau sydd yn ein oergell ar hyn o bryd.


Drwy ychwanegu gwymon at eich deiet, profwyd ei fod yn hyrwyddo fflora perfedd llesol, yn helpu i leihau mynegai glycemig bwydydd eraill a gallai helpu i amddiffyn rhag canser y colon.


Unwaith eto, mae cynnwys protein gwymon yn amrywio rhwng rhywogaethau a'i amodau amgylcheddol, fodd bynnag, gall fod rhwng 5 - 47% o'i bwysau sych. Mae'r lefel uchaf o brotein wedi'i ddarganfod mewn gwymon coch gan gynnwys yr holl asidau amino hanfodol.

Oeddech chi'n gwybod bod yr un asidau omega 3 brasterog sydd i'w cael mewn pysgod olewog i'w cael mewn gwymon hefyd? Mae gwymon yn isel mewn braster - dim ond 2% o'i bwysau sych.


Mae gwymon yn cael effaith ar y diwydiant bwyd …


Mae nifer o gwmnïau bwyd yn ystyried defnyddio gwymon yn eu cynnyrch. Er enghraifft, gellir defnyddio gwymon sych neu wymon mâl i wella blas neu yn lle halen. I gefnogi hyn, cynhaliodd Prifysgol Sheffield Hallam ymchwil i'r defnydd o wymon mewn cynnyrch bwyd a gwelwyd y gellir defnyddio gwymon yn lle halen mewn bara, gan helpu i reoli pwysau.

Mae'n ymddangos bod gwymon yn boblogaidd iawn yn y farchnad Ewropeaidd gan fod gwledydd fel yr Iseldiroedd a Ffrainc yn defnyddio gwymon fel dewis arall i basta sy’n isel o ran carbohydrad ac mewn dŵr â blas.


Os nad yw’r blog hwn wedi eich perswadio i ychwanegu gwymon at eich rhestr siopa, dyn â ŵyr beth fydd. Yn gyfoethog o bopeth da, gallai gwymon fod yn ffynhonnell wych o ffeibr, protein, fitaminau a mwynau o’i fwyta fel rhan o ddeiet iach a chytbwys.

A allai defnyddio gwymon yn eich cynnyrch arwain at farchnadoedd newydd i chi? Am wybod sut gallech chi gymryd rhan? Cysylltwch a ni trwy futurefoods@bic-innovation.com

3 views0 comments
bottom of page