top of page
  • nicolethomas7

Lansio Grŵp sydd â Diddordeb Arbennig mewn Bwyd sy’n Isel mewn Carbohydradau

Fis diwethaf, daeth saith cynhyrchydd bwyd at ei gilydd i lansio'r Grŵp sydd â Diddordeb Arbennig mewn Bwyd sy’n Isel mewn Carbohydradau. Roeddent yn trafod popeth am fwyd sy’n isel mewn carbohydradau, yn uchel mewn ffibr ac sy’n cynnwys braster da.

Rhagwelir erbyn 2025 y bydd mwy na phum miliwn o bobl yma yn y DU yn dioddef o ddiabetes os na fyddant yn newid eu ffordd o fyw yn fuan. Yma yng Nghymru, mae mwy na 194,000 o bobl yn dioddef o ddiabetes ac amcangyfrifir bod 90% o’r bobl hynny yn dioddef o ddiabetes Math 2. Mae’n bosib rheoli diabetes math 2 ac mewn rhai achosion, gellir ei wyrdroi wrth newid eu deiet a ffordd o fyw.


Cynhaliwyd y lansiad yn Ystad Rhug. Trafodwyd sut gall Future Foods a Maeth Cymru helpu i ddatblygu ac ymchwilio i fwydydd sy’n isel mewn carbohydradau, yn uchel mewn ffibr ac sy’n cynnwys braster da ar draws y sectorau bwydydd o'r becws, prydau parod, cig, iechyd llaeth a byrbrydau.


Ymysg y bobl yn y lansiad roedd Eryl Vaughan, Rheolwr Gyfarwyddwr Low Carb Food Co.. Rhannodd ei stori am ddefnyddio deiet a newid ei ffordd o fyw i reoli ei ddiabetes. Aeth Eryl ati i esbonio, dros gyfnod o bedair blynedd nid yw wedi dioddef cymaint gyda’i ddiabetes ac nid yw’n cymryd meddyginiaeth reolaidd ar gyfer ei gyfer bellach oherwydd ei fod yn rheoli ei ddeiet. Ers gwneud hyn, nod Eryl yw sefydlu cwmni a fyddai’n gallu cyflenwi amrywiaeth o fwydydd carbohydrad isel i gwsmeriaid er mwyn ei gwneud hi’n haws iddynt newid eu ffordd o fyw er gwell. Hefyd, mae Eryl yn frwdfrydig am roi budd i economi Cymru a dyna pam ei bod yn bwysig cael y cynhyrchwyr hyn yng Nghymru.

Mae’r diddordeb yn y grŵp sydd â diddordeb arbennig mewn bwyd sy’n isel mewn carbohydradau wedi cynyddu yn sydyn iawn gan fod sawl cyfarfod un-i-un â chynhyrchwyr wedi’u cynnal. Mae hyn wedi arwain at arbrofi datblygu cynnyrch sy’n isel mewn carbohydradau.


Rydym yn gyffrous iawn am lansiad y Grŵp Diddordeb Arbennig yma oherwydd credwn fod amrywiaeth eang o arbenigedd yma yng Nghymru a allai hyrwyddo’r agenda bwyd sy’n isel mewn carbohydradau, yn uchel mewn ffibr ac sy’n cynnwys braster da yn y DU. Gall hyn, yn ei dro, gefnogi nodau’r Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol drwy roi opsiynau bwyd eraill i bobl Cymru sy’n gallu cefnogi ffordd o fyw iachach.


Bydd y datblygiadau a’r cyfarfodydd cyffrous a chalonogol hyn yn parhau dros yr wythnosau nesaf a bydd y Grŵp sydd â Diddordeb Arbennig mewn Bwyd sy’n Isel mewn Carbohydradau yn cyfarfod eto ym mis Ionawr 2020.


Hoffech chi fod yn aelod o’r grŵp diddordeb arbennig? Cymerwch ran yn y sgwrs! Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am sut i ymuno â’r grŵp diddordeb.

6 views0 comments
bottom of page