top of page
  • nicolethomas7

Sut i fynd i'r afael â diabetes yn uniongyrchol gyda'r maeth cywir

Oeddech chi'n gwybod bod disgwyl y bydd nifer y bobl sy'n dioddef gan ddiabetes yn codi i 522 miliwn ledled y byd erbyn 2030? Mae diabetes wedi'i nodi fel prif achos clefyd y galon, strôc, dallineb a methiant yr arennau, ond nid yw 1 ym mhob 2 berson wedi cael diagnosis eto. Os na fydd unrhyw beth yn newid, bydd mwy na 5 miliwn o bobl yma yn y Deyrnas Unedig yn cael gwybod eu bod yn dioddef gan ddiabetes erbyn 2025.

Er bod dynion a merched yn agored i ddiabetes, dynion sy'n fwy tueddol o gael y clefyd. Mae'r rhai sy'n cael diagnosis o ddiabetes yn tueddu i fynd yn ieuangach ac ieuangach. Y rheswm am hyn yw cyfuniad o ddewisiadau deiet gwael a dim ymarfer corff. Yma yng Nghymru, mae bron i 95,000 eisoes wedi cael diagnosis o ddiabetes, mae 90% o'r rheini'n dioddef gan Fath 2 ac, mewn 2 achos allan o bob 3, mae’n ffurf o'r clefyd y gellir ei hatal.


Felly, gyda chymaint o bobl ifanc yn dioddef gan glefyd y gellir ei atal a'r nifer yn gynyddol godi, beth allwn ei wneud i atal hyn? Mae deiet yn ffactor enfawr o ran atal diabetes Math 2 a thrwy gydol y blog hwn, rydym am edrych ar yr hyn y mae'r arbenigwyr yn ei argymell a'r gwahanol ddeietau sydd ar gael i geisio cael gwared â'r afiechyd hwn.


Beth yw GI?


Y lle gorau i ddechrau yw gyda GI, yn ôl pob tebyg. System a ddefnyddir i sgorio faint o garbohydradau sydd mewn darn penodol o fwyd yw GI (neu ‘Mynegai Glycemig’). Bydd mynegai glycemig bwyd yn dweud wrthych pa mor sydyn y bydd yn cael effaith ar lefel y siwgr yn eich gwaed unwaith y byddwch yn ei fwyta.


Mae’r raddfa glycemig yn mynd o 0 i 100 (gyda 100 yn glwcos pur). Trwy ymchwil, cafwyd y gall cadw llygad ar GI eich bwydydd helpu i reoli diabetes Math 2. Mae bwydydd yr ystyrir eu bod â sgôr GI isel (55 neu is) yn garbohydradau sy'n cael eu hamsugno'n araf, sy’n cynnwys y rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau, cnau, llaeth (heb ei felysu), codlysiau a rhai mathau o fara grawn cyflawn a grawnfwydydd.


Yn y tabl uchod rhoddir enghreifftiau o fwydydd sydd wedi cael sgôr GI isel, canolig neu uchel.


Ond cofiwch, nid yw bwyd sydd â GI isel o reidrwydd yn golygu eu bod yn iach. Er enghraifft, mae gan y mwyafrif o siocledi GI isel oherwydd eu cynnwys braster.


Beth yw'r deiet gorau i'r rhai sy'n dioddef gan ddiabetes Math 2?


Ar hyn o bryd mae cymaint o ddulliau a strategaethau deietegol ar y farchnad sydd â'r bwriad o naill ai trin, rheoli ac, o bosib, gwrthdroi diabetes Math 2. Rydym wedi ymchwilio i'r data mwyaf diweddar er mwyn dod o hyd i thema gyffredin a gweld beth sydd gan yr arbenigwyr i'w ddweud ...


“Deietau carb a keto isel ar gyfer diabetes Math 1 a 2”


Dangoswyd y gellir adennill rheolaeth glycemig ymhlith y rhai sy’n dioddef gan ddiabetes Math 2 trwy wneud i ffwrdd â ‘charbohydradau syml’ a thrwy leihau faint o ‘garbohydradau cymhleth’ y byddir yn ei fwyta. Er y dylid llunio pob rhaglen ddeiet yn unol ag anghenion yr unigolyn gyda'r cyfuniad o ymarfer corff, gall bwyta llai o garbohydradau cymhleth helpu i reoli lefel y siwgr yng ngwaed unigolyn. (Bolla, Caretto and Piemonti, 2019)


“Effeithiau protein uchel / carbohydrad isel ar reoli lefel y glwcos yn y gwaed mewn diabetes Math 2”


Mae ymchwil yn y maes hwn wedi dangos bod cymhareb Carbohydrad: Protein: Braster ar 20:30:50 yn fwy effeithiol wrth leihau a rheoli lefel y siwgr yng ngwaed pobl sy’n dioddef gan ddiabetes Math 2, a hynny dros gyfnod o bum wythnos. Profwyd mai’r dull hwn sy’n gweithio orau, yn hytrach na'r gymhareb amgen o 50:15:30 o Garbohydrad: Protein: Braster. (Cannon and Nuttall, 2014)


“Deiet carbohydrad isel mewn diabetes math 2”


Er y gall lleihau faint o garbohydradau sydd yn neiet rhywun sy'n dioddef gan ddiabetes Math 2 fod yn ddefnyddiol wrth geisio rheoli lefelau’r siwgr yn ei waed, ni ddylid gwneud hyn ar draul maeth. Rhaid sicrhau bod elfennau eraill i’w gweld yn y deiet, fel ffibr, i gynnal iechyd yn gyffredinol. (Czyewska-Majchrak et al, 2014)


“Rheoli gordewdra ac atal diabetes”


Argymhellir y dylai’r rhai sydd â diabetes Math 2 neu sydd ar y ffin â datblygu diabetes, gyfyngu’n ddyddiol ar faint o garbohydradau y gellir eu treulio'n gyflym y byddant yn eu bwyta. Mae’r carbohydradau hyn yn cynnwys tatws, bara a reis gwyn, surop a siwgr. Fel arall, argymhellir newid i ddeiet sy'n cynnwys mwy o fraster, yn bennaf fwyd sy'n llawn asidau brasterog annirlawn.


“Rheoli diabetes Math 2”


Cafwyd tystiolaeth o dreialon clinigol y gallai patrymau deietegol llysieuol a Môr y Canoldir fod yn effeithiol wrth wella rheolaeth glycemig mewn pobl sy'n dioddef gan ddiabetes, er bod angen mwy o ymchwil yn y maes hwn.


Y thema gyffredin trwy gydol yr ymchwil a ddarganfuwyd yw y bydd bwyta llai o garbohydradau yn y deiet yn fodd i rywun sy'n dioddef gan ddiabetes Math 2 reoli lefelau ei glwcos. Gan fod cyfran fawr o bobl yn y Deyrnas Unedig yn dioddef gan yr afiechyd hwn y gellir ei atal, mae lle yn y farchnad bwydydd maethlon i gefnogi'r rhai sy'n delio â'r diagnosis.


Os oes gennych ddiddordeb yn y pwnc ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gallem eich cefnogi, cysylltwch â ni!

1 view0 comments
bottom of page