Mae IBERS yn ganolfan ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol
Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ganolfan ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n darparu canolfan unigryw ar gyfer ymchwil gydweithredol â’r diwydiant.
​
Gyda 360 aelod o staff, IBERS yw’r athrofa fwyaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n addysgu 1350 o fyfyrwyr israddedig a mwy na 150 o fyfyrwyr ôl-raddedig. Ein cenhadaeth yw gwella iechyd a lles pobl trwy ymchwil, addysg a gweithgareddau ymgysylltu. Credwn fod cadw pobl yn iach ac yn fodlon yn dibynnu hefyd ar gyflwyno amgylchedd iach, planhigion ac anifeiliaid iach, a busnesau iach.
Mae ymchwil sy’n gysylltiedig ag ymchwil yn darparu thema unoli sydd wrth graidd ein cenhadaeth, ac mae prosiectau cydweithredol wedi cael eu cyflawni gyda sbectrwm eang o gwmnïau’r DU a chwmnïau rhyngwladol. Mae ein galluoedd ymchwil yn ymestyn dros y gadwyn gwerth bwyd gyfan, o fridio anifeiliaid a phlanhigion a systemau cynhyrchu amaethyddol i astudiaethau dynol sy’n archwilio buddion iechyd bwydydd newydd. Mae buddsoddi strategol mewn ffermydd ymchwil, biobrosesu deunyddiau crai bwyd, dadansoddi cyfansoddiadol uwch a chyfleusterau treialon clinigol yn darparu ystod gallu sy’n unigryw yng Nghymru.
Ymchwil i Fwyd, Deiet ac Iechyd
Nod ymchwilwyr IBERS yw deall yn well sut i drawsnewid canllawiau deietegol a gweithgarwch corfforol y llywodraeth i fod yn newidiadau gwirioneddol ymhlith y boblogaeth gyffredinol.
​
Nod ymchwilwyr IBERS yw deall yn well sut i drawsnewid canllawiau deietegol a gweithgarwch corfforol y llywodraeth i fod yn newidiadau gwirioneddol ymhlith y boblogaeth gyffredinol. Mae lansiad diweddar Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd yn hwyluso ymchwil, yn benodol mewn perthynas ag archwilio’r berthynas rhwng ymddygiad bwyta ac iechyd. Mae WARU yn meithrin perthnasoedd rhwng ymchwilwyr IBERS, y gymuned leol a’r GIG, ac mae’n darparu cyfleuster i gyflawni treialon clinigol sy’n canolbwyntio’n arbennig ar ymyriadau bwyd a’r effaith ar gyflyrau iechyd cronig. Gyda chyfleusterau ar gyfer dadansoddi cyfansoddiad y corff, mesur gallu corfforol, profion gwybyddol, asesu cymeriant deietegol, a biocemeg glinigol, mae’r Uned yn darparu cwmpas ar gyfer archwilio’n gynhwysfawr effaith bwydydd ar fetabolaeth, ffisioleg, priodoleddau corfforol, lles ac iechyd pobl.
Buddsoddi mewn arloesedd
Mae gweithgareddau Bwydydd y Dyfodol yn ategu datblygu Campws Arloesi a Menter Aberystwyth a disgwylir iddo fod yn weithredol yn 2020.
​
Gyda mwy na 7000 metr sgwâr o le llawr, bydd y campws yn darparu cyfleusterau ac arbenigedd o’r radd flaenaf ar gyfer y diwydiant amaeth-dechnegol, a’r sectorau bwyd a diod, biobrosesu a biodechnoleg. Wedi’i leoli rhwng Mynyddoedd Cambria a Môr yr Iwerydd, bydd y campws hwn gwerth £40.5m yn darparu amgylchedd blaengar i annog cydweithio rhwng busnesau a’r maes academaidd i ffynnu.