Ysgogi ymchwil a datblygu i ddatrys heriau a amlygwyd gan y diwydiant…
Trwy weithio gyda’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, ein nod yw cynhyrchu gwerth ac effaith o gyfleoedd a gynhyrchir o ymchwil a darparu atebion ymchwil a datblygu i anghenion y diwydiant
Protein amgen
Mae proteinau amgen, fel amnewidion cig ar sail planhigion a phryfed bwytadwy, yn darparu swm sylweddol o brotein trwy angen, o bosibl, llai o fewnbynnau naturiol i’w cynhyrchu na’r ffynonellau protein mwyaf cyffredin, cig a physgod.
Ceir hyd i broteinau, sy’n cynnwys dilyniannau gwahanol o asidau amino, mewn bron pob bwyd cyflawn.
​
Beth allwn ni ei gynhyrchu yng Nghymru i gynyddu cynaliadwyedd ein cadwyn gyflenwi bwyd a darparu bwydydd sydd o fudd maethol?
Amaethyddiaeth Amgylchedd Rheoledig
Mae amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig yn ddull sy'n seiliedig ar dechnoleg tuag at gynhyrchu bwyd.
​
Bydd cymhwyso technoleg yn cefnogi gwell effeithlonrwydd, proffidioldeb a chynaliadwyedd systemau bwyd ac yn cynyddu’r amrywiaeth ac ehangu argaeledd y bwyd a dyfir yng Nghymru.
​
Sut y gall Cymru datblygu cynhyrchiant bwyd gan ddefnyddio technolegau profedig, o’r radd flaenaf, gan edrych ar draws nifer o sectorau?
Grawnfwydydd
​
Mae grawnfwydydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer cynhyrchion a marchnadoedd newydd, megis gosod prydau newydd, cyflenwi marchnadoedd malu a distyllu a chyfleoedd cnydau ehangach fel cynhwysion newydd ar gyfer bwydydd anifeiliaid.
​
A all Cymru gynyddu cynaliadwyedd a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy gynhyrchu diodydd ceirch newydd fel dewis amgen uchel o brotein i Almon a Soia?
Datblygiadau i gynhyrchion llaeth
Mae gan ffermwyr llaeth yng Nghymru'r adnoddau naturiol, yr hinsawdd gywir a digonedd o ddŵr i gynhyrchu llawer o laswellt, maent o safon fyd-eang, ac yn gallu cystadlu â'r gorau ar raddfa fyd-eang.
Ond sut y gall Cymru leihau'r materion amgylcheddol a chynaliadwyedd sy'n gysylltiedig â ffermio llaeth? A all bwydo anifeiliaid a hwsmonaeth o laeth ddarparu gwell maeth i bobl?
Anifeiliaid byw
Mae pobl o bob cwr o’r byd yn mwynhau cig coch o Gymru. Mae'n rhan bwysig o’n heconomi bwyd a diod.
Trwy archwilio ymarferoldeb naturiol a maeth cynhyrchion cig, a all Cymru leihau'r materion amgylcheddol a chynaliadwyedd sy'n gysylltiedig â ffermio da byw?
A all defnyddio deiet a/neu roi ychwanegiadau i’r gwartheg i gynhyrchu cig iachach?
Algâu
Mae Algâu yn darparu cyfleoedd i gael cynhyrchion a marchnadoedd newydd, wrth wella gwerth neu liniaru gwastraff o gynhyrchu bwyd traddodiadol. Ond a allai hefyd fod yn bolymer ar gyfer pecynnu neu'n cael ei ddefnyddio fel gwrtaith? Neu fel lliniarydd ar gyfer dŵr ffo a glanhau dŵr gwastraff amaethyddiaeth sylfaenol neu brosesu?
A all Cymru defnyddio ar gyfer amnewidyn cig a chyfrwng i wneud bwydydd neu gynhwysyn mewn bwydydd eraill?
​
Themâu trawstoriadol
Trwy Fwydydd y Dyfodol, ein nod yw mynd i’r afael â’r themâu trawstoriadol canlynol:
​
-
Mynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd
-
Meithrin cynaliadwyedd ym mhrosesau’r diwydiant bwyd
-
Datblygu cynhyrchion maethol
-
Cefnogi datblygiadau i beirianneg a dyluniadau.