top of page

Ein cenhadaeth

Mae tanategu’r gwaith rydym ni’n ei wneud yn ffocws a rennir…

Ein nod yw cefnogi’r diwydiant i chwarae eu rhan yn nhargedau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer twf, yng Nghynllun Gweithredu Bwyd a Diod Cymru.


Mae bwyd a diod yn sector twf allweddol i Lywodraeth Cymru, ac mae’n hanfodol i gyflwyno nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn sgil y rôl y gall ei chwarae o ran cynaliadwyedd amgylcheddol, iechyd cyhoeddus, ac adfywio economaidd Cymru wledig.


Trwy gefnogi datblygiad arloesol a chynaliadwy’r diwydiant yng Nghymru, a gweithio’n agos â’n rhanddeiliaid, ein nod yw cefnogi Llywodraeth Cymru i wireddu ei amcanion uchelgeisiol ar gyfer twf a datblygu gwledig. 

Anghenion byd-eang

Trwy Raglen Bwydydd y Dyfodol, ein nod yw helpu diwydiant bwyd Cymru i fynd i’r afael â heriau  byd-eang a deall arfer gorau byd-eang, sy’n cynnwys:

  • Effaith newid yn yr hinsawdd ar beth y gallwn ni ei gynhyrchu.

  • Anghenion ein poblogaeth newidiol o ran maint cynyddol a demograffeg y boblogaeth fyd-eang.

  • Yr angen cynyddol am system gynhyrchu bwyd gynaliadwy.

Anghenion yr unigolyn 

Bydd y rhaglen yn helpu cwmnïau i ymgysylltu ag ymchwil a datblygu cydweithredol i ddeall a mynd i’r afael â galw newidiol defnyddwyr, darparu cynhyrchion sy’n iach a maethol, a chael sylfaen gwyddonol cadarn.

​

Gyda gordewdra, poblogaeth sy'n heneiddio ac alergeddau yn cyflwyno heriau i wasanaethau iechyd, sut y gall busnesau bwyd a diod helpu i wneud y gorau o iechyd a lles da?

Perthnasedd i Gymru

Bydd y gwaith o dan Raglen Bwydydd y Dyfodol yn cael ei gyfeirio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gyda’r bwriad o greu Cymru ffyniannus, wydn, iachach, sy’n gyfrifol yn fyd-eang, ac sy’n cael effaith gadarnhaol ar Gymru a’i phobl. Trwy’r safbwynt hwn, rydym ni’n mynd i’r afael â materion fel:

  • Pa fwyd dylwn ni ei gynhyrchu yng Nghymru?

  • Beth yw effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol beth rydym ni’n ei gynhyrchu? 

  • Beth yw arfer gorau byd-eang, a beth sy’n fwyaf priodol i ni ei fabwysiadu yng Nghymru?

  • Beth yw’r datblygiadau technegol sydd eu hangen arnom?

bottom of page