Bwydydd y Dyfodol
Rhaglen gyffrous sydd wedi cael ei dylunio i ddarparu arbenigedd ymchwil a datblygu o’r radd flaenaf mewn maeth, technoleg a gwyddor bwyd, i fusnesau bwyd a diod uchelgeisiol yng Nghymru sy’n ceisio datblygu cynhyrchion iach, sy’n creu marchnadoedd newydd.
Nod y rhaglen gydweithredol hon yw galluogi cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru i wella eu hysfa gystadleuol a thanategu cynaliadwyedd a thwf yn y dyfodol trwy gymhwyso gweithgareddau ymchwil a datblygu datblygedig.
Datrys heriau trwy ymchwil a datblygu...
Trwy weithio’n agos â’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, nod Rhaglen Bwydydd y Dyfodol yw cynhyrchu gwerth yn sgil datblygu cyfleoedd a gynhyrchir o ymchwil cydweithredol a datblygu atebion ymchwil a datblygu i anghenion y diwydiant.
AMDANOM NI
Rhaglen gyffrous sydd wedi cael ei dylunio i ddarparu arbenigedd ymchwil a datblygu o’r radd flaenaf...
Ein cenhadaeth
Ein nod yw cefnogi’r diwydiant i chwarae eu rhan yn nhargedau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer twf, yng Nghynllun Gweithredu Bwyd a Diod Cymru.