top of page
  • Writer's pictureNatalie Rouse

A ddylai bawb fod yn cymryd rhan yn yr ymgyrch figan ym mis Ionawr?

Fel arfer, ystyrir mis Ionawr yn un o fisoedd mwyaf digalon y flwyddyn. Mae gorfod delio â theimlo’n benisel ar ôl gwyliau'r Nadolig yn ogystal â'r tywydd oer yn ddigon drwg, heb sôn am y ffaith bod ein cynlluniau ar gyfer bwyta’n iach a chadw’n heini wedi mynd i’r gwellt tan fis Ionawr 2021 hefyd.


Un deiet penodol sy'n amlwg iawn yw Figaniaeth. Mae deiet figan wedi cael mwy a mwy o sylw dros y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer o bobl yn dilyn y deiet, am resymau iechyd neu am resymau egwyddorol.

Gyda dros 350,000 o bobl wedi cofrestru ar gyfer yr ymgyrch figan y mis hwn, y prif resymau dros ddilyn y duedd boblogaidd eleni yw iechyd, anifeiliaid a’r amgylchedd.

Mae'r archfarchnadoedd mawr hefyd am chwarae eu rhan yn hyn, ac Asda yw’r archfarchnad ddiweddaraf i lansio ei chyfres o fwyd figan sy'n cynnwys 48 cynnyrch newydd. Nid yr archfarchnadoedd yw’r unig rai sydd wedi gweld cyfle gan fod cadwyni bwyd cyflym fel KFC, Greggs a Subway hefyd wedi dechrau ymgyrchoedd marchnata mawr sy’n hyrwyddo'u dewisiadau amgen heb gig. Ond a ydym ni’n gwybod am yr holl fanteision a risgiau i’n hiechyd wrth ddewis deiet figan yn hytrach na deiet sy’n cynnwys cig? Nod y blog yma yw edrych yn fanylach ar y manteision a’r anfanteision.

Sgôr PRAL


Mae deietau acidogenig, sy’n cael eu mesur fel rheol gan lwyth asid yr arennau (PRAL), wedi cael eu cysylltu â llawer o glefydau metabolig cyffredin sy’n dod yn fwy amlwg gan gynnwys gwrthiant inswlin, anhawster hepatig, a risg gardiometabolig. Gellir osgoi llawer o’r rhain gyda bwyd maethlon a ffordd o fyw egnïol (Lanier, et al 2016). Mae deiet figan yn gysylltiedig â llwythi asid isel, oherwydd bod bwyta llysiau a ffrwythau yn gostwng lefel asidedd y corff ac yn cynyddu’r pH i lefel ddymunol (Cosgrove et al 2017).


Dangosodd astudiaeth yn 2017 fod lleihau faint o gig a chynnyrch anifeiliaid sy’n cael ei fwyta am 2-6 diwrnod yr wythnos wedi gostwng lefelau asid yr wrin ac wedi codi’r sgôr PRAL. Felly, gan fod sgorau PRAL deietegol isel wedi bod yn gysylltiedig â gwella paramedrau metabolig, gellid defnyddio deiet figan am sawl diwrnod yr wythnos fel strategaeth ddeietegol i leihau’r risg o glefyd nad yw’n heintus (Iwase at al 2015).


Maeth


Mae deiet figan yn y tymor hir yn gysylltiedig â rhai mesurau labordy ffafriol ond hefyd â chrynodiadau llai o’r prif faethynnau, o'u cymharu â’r gwerthoedd maeth dyddiol sy’n cael eu cymeradwyo. Tynnodd “Arolwg o’r Ffindir” sylw at yr angen am ganllawiau maeth i figaniaid (Elorinne et al 2016). Yn yr astudiaeth, dangoswyd bod figaniaid yn cael llai o fitamin B12, llai o PUFA ac omega-3, ac roedd ganddynt fitamin D isel, a llai o ïodin a seleniwm na phobl nad ydyn nhw’n figaniaid. Mae hyn yn destun pryder gan fod yr holl faethynnau a restrir yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles. Ar ben hynny, mae lefelau ïodin a seleniwm yn ddiffygiol yn gyffredinol ym mhoblogaeth y DU cyn mabwysiadu deiet cyfyngol a dileu grwpiau bwyd (Thomson 2014). Felly, mae’n hollbwysig ystyried maeth yn ofalus neu ymgynghori â deietegydd cyn mynd ati i ddilyn deiet figan neu ddeiet sy’n seiliedig ar blanhigion.


A yw ‘darnau cyw iâr heb gyw iâr go iawn’ yn ddewis iach ar gyfer deiet figan?


Fel y crybwyllwyd yn flaenorol, mae archfarchnadoedd y DU wedi dechrau’r flwyddyn 2020 gyda llu o ddewisiadau heb gig ar gyfer eu cwsmeriaid figan. O bethau fel ‘rholiau crempog llysiau heb gig hwyaden’ i ‘dameidiau cyw iâr heb gig’, mae'r silffoedd yn llawn cynnyrch newydd i’n twyllo ni i feddwl ein bod yn bwyta gwledd llawn cig. Ond oherwydd bod y cynhyrchion hyn yn figan, a bod y rhan fwyaf ohonom yn tybio bod deiet o lysiau’n iach, ydyn ni’n gwneud unrhyw ddaioni i ni ein hunain drwy gyfnewid cig eidion o Gymru am ddewis arall sydd heb gig?

Roedd astudiaeth o Sweden yn 2002 wedi ymchwilio i ddeiet figaniaid gan ddod i'r casgliad eu bod yn bwyta llawer mwy o lysiau ac atchwanegiadau deietegol na hollysyddion. (Larsson a Johansson 2002). Er ei bod yn ymddangos yn amlwg bod deiet sy'n seiliedig ar blanhigion yn cynnwys mwy o lysiau, mae’r cynnydd diweddar mewn byrbrydau figan, prydau parod a bwyd sy’n debyg i gig yn lleihau hyn ac yn hyrwyddo mwy o halen, brasterau dirlawn a melysyddion artiffisial. Gallai hyn achosi peryglon iechyd hirdymor yn yr un modd â dibyniaeth ar unrhyw ‘fwyd sothach’ (Chat 2018).


Roedd 68% o’r rheini a gymerodd ran yn ymgyrch figan mis Ionawr 2019 yn ferched, ond mae merched figan yn fwy tebygol o ddioddef anaemia


Yn gyffredinol, mae merched mewn mwy o berygl o ddioddef anemia ar unrhyw ddeiet. Felly mae’n bosibl y bydd y rheini sy’n bwyta deiet sy'n isel mewn haearn haem mewn perygl o ragor o ddiffyg maethynnau. (Mae gan haearn haem y bio - argaeledd uchaf yn y corff dynol). Er enghraifft, gallai defnyddio biotechnoleg yn y gwaith o greu fersiynau synthetig o haearn-haem, fod yn faes o ddatblygiad mawr i ddiogelu iechyd figaniaid.


Yn gyffredinol, mae canfyddiadau’r llenyddiaeth wyddonol yn awgrymu y gall deiet figan gyfrannu at ffordd o fyw iach cyn belled â bod y deiet wedi’i gynllunio’n dda, ac yn gytbwys, a’i fod yn cynnwys amrywiaeth o fwydydd, yn enwedig cynnyrch wedi’u cyfoethogi. Mae’r gymdeithas figaniaid yn mynnu bod angen atchwanegiadau mewn deiet figan. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn cynnal iechyd (Kolasa 2017). Er bod diffyg fitaminau a mwynau penodol yn peri pryder i figaniaid, cymysg yw'r dystiolaeth sy’n awgrymu bod figaniaid mewn mwy o risg o ddiffygion o ran maeth, oherwydd diffyg astudiaethau clinigol tymor hir ynghylch statws maethol figaniaid i ddod i benderfyniad. Fodd bynnag, mae dadansoddiadau tymor hir o ddeiet figaniaid wedi dangos cynnydd mewn diffygion yn y tymor hir os nad yw strategaeth ddeietegol wedi’i chynllunio’n effeithiol a gyda gofal.


Felly, i gloi, ni ellir dweud yn sicr pa ddeiet sydd orau i chi. Mae manteision ac anfanteision i’r ddau, fodd bynnag, mae cyfuniad o’r ddau ddeiet yn cael ei argymell gan arbenigwyr fel arfer. Argymhellir lleihau faint o gig sy’n cael ei fwyta a bwyta mwy o lysiau, gan ystyried yn ofalus a yw’r holl faethynnau angenrheidiol yn cael eu cynnwys.


Oes gennych chi syniad a allai bontio’r bwlch yn y farchnad? Ydych chi angen cyngor ar brosiect rydych chi’n gweithio arno ar hyn o bryd, ond ddim yn siŵr beth fydd eich camau nesaf? Cysylltwch â ni! Gallwn ddarparu cymorth wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer Ymchwil a Datblygu, gweithgareddau datblygu, gwneud cais am gyllid a mwy.


9 views0 comments
bottom of page