top of page
  • Writer's pictureNatalie Rouse

Y Prif Dueddiadau Bwyd a Ragwelir; Y Saith Gwych

Yn yr erthygl hon, mae Natalie Rouse, Ymchwilydd Marchnadoedd a Thechnolegau Future Foods, yn rhannu ei chanfyddiadau â ni am dueddiadau bwyd cyfredol ac yn edrych ar 7 maes allweddol y mae hi’n credu a fydd yn parhau i dyfu.


Mae Natalie yn Faethegydd cofrestredig ac achrededig, yn Ymgynghorydd Maethegol ac yn Wyddonydd Ymchwil Maethegol. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn maeth ac yn credu’n daer yn y defnydd o faeth. Cymhwysodd Natalie fel Maethegydd yn 2008 ond mae wedi gweithio ym maes ymyriadau maethol, rhagnodi ymarfer corff er lles a hyfforddiant personol er 2003. Arbenigedd Natalie yw cyfansoddiad a ffurfiant maetholion, gan weithio fel maethydd ymchwil ar gyfer brandiau rhyngwladol fel Huel, Fuel10k a gweithiwr proffesiynol CNP.


Mae gan Natalie ddiddordeb brwd iawn hefyd mewn biocemeg faethol er mwyn sicrhau'r iechyd gorau posibl, rheoli clefydau a defnyddio ymyriadau deietegol i wella perfformiad ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio â phoblogaethau, oedrannau a demograffegau amrywiol, gan gynnwys Cymdeithas MS, Diabetes UK, lluoedd arbennig y DU, y Llu Awyr Brenhinol, tîm rygbi Worcester Valkyries ac athletwyr Paralympaidd Prydain Fawr.



1. Ffynonellau protein figan

Mae'r cynnydd mewn defnyddio powdrau protein o blanhigion wedi arwain at gynhyrchu a marchnata amrywiaeth o gynhyrchion yn y farchnad ar raddfa fawr sy'n gallu peri dryswch i ddefnyddwyr. Mae enwau mawr ym maes protein yn Ewrop fel MyProtein a’r arweinydd brand maeth cyflawn figan, Huel, wedi sylwi ar hyn, gyda diodydd wedi’u gwneud o brotein o blanhigion yn ymddangos ym marchnadoedd y DU, UDA ac Ewrop yn ddiweddar ac yn cael derbyniad gwych.


Gyda phrotein soia, pys, reis a chywarch eisoes ar gael ac yn cael ei ddefnyddio’n eang, rwy’n gweld agoriad yn y farchnad ar gyfer powdrau newydd fel y Sacha Inchi sy’n frodorol i Beriw ac sy’n aml yn cael ei alw’n gneuen Sacha neu gneuen y jyngl. Mae 80% o Sacha Inchi yn brotein (powdr wedi’i sychu) - sy’n ystadegyn trawiadol iawn - ac mae ei flas cneuen ysgafn yn cyd-fynd yn dda â llawer o ddiodydd a phrydau bwyd sydd eisoes ar gael. Dywedir bod y protein yn Sacha Inchi yn un o’r proteinau isaf o ran alergenau a’r hawsaf ei dreulio, ac mae’n addas i bobl o bob oed. Mae lefel yr asid brasterog hanfodol, Omega 3, hefyd yn uchel yn Sacha Inchi a hwn sydd â’r ganran uchaf o asidau brasterog annirlawn o’r holl broteinau eraill o blanhigion. Mae Sacha Inchi yn gwella'r gymhareb colesterol LDL: HDL, a briodolir i well iechyd y galon ac mae hefyd yn wrthlidiol. Gellir defnyddio’r olew sy’n cael ei echdynnu fel cyfansoddyn ar gyfer dresin salad neu i'w ddiferu dros seigiau pasta, gan leihau gwastraff.


Mae’r UE wedi cael cais bwyd newydd ar gyfer powdr protein Sacha Inchi, ei ddail, ei hadau a’i goesyn. Y lleoliad a’r effaith amgylcheddol bosib yw elfennau negyddol y ffynhonnell ; fodd bynnag, mae’n cael ei gydnabod mewn rhannau eraill o’r byd fel cnwd cynaliadwy gyda defnydd masnachol hyfyw.


2. Canabinoidau (CBD) a chynhyrchion cywarch

Mae CBD a chynhwysion cywarch yn parhau i fynd o nerth i nerth ers iddynt gael cymeradwyaeth bwyd newydd EFSA. Y rheswm am hyn yw’r cyfuniad o fanteision iechyd a nodwyd; mae’n cynnig manteision o ran iechyd meddwl ac iechyd corfforol sy’n cynnwys nodweddion gwrthlidiol, lleihau pryder a digonedd o wrthocsidyddion.


Rwy’n rhagweld cynnydd yn y defnydd o CBD mewn amrywiol ffurfiau, gan gynnwys trwythau, emylsiynau ac echdynion wedi’u hychwanegu at ddefnyddiau traul. Oherwydd sefydlogrwydd CBD ar dymheredd uchel, gellir ei ddefnyddio’n eang.


Mae CBD a chywarch yn cael eu hystyried i fod braidd yn tabŵ neu’n wrthryfelgar o hyd, er bod yr echdynion CBD a chywarch a geir mewn bwydydd yn anseicoweithredol. Ond, bydd manteision iechyd ac elfen bryfoclyd y rhain yn parhau i ddenu pobl a bydd y cyfansoddion yn parhau i gynyddu mewn poblogrwydd gydol 2021.


3. Algâu

Ar un adeg roedd y planhigion dŵr amlbwrpas hyn yn cael eu hystyried yn llysnafedd gwyrdd drwg ei flas. Ond mae posibiliadau aruthrol iddynt gael eu defnyddio’n eang ar draws yr holl sectorau bwyd, diod a bwydydd â swyddogaeth feddygol neu iechyd, gan gynnwys atal a thrin clefydau.


Mae’r galw byd-eang am fwydydd macroalgaidd a microalgaidd yn cynyddu ac mae algâu yn cael eu defnyddio fwyfwy oherwydd ei elfennau swyddogaethol sydd y tu hwnt i'r ystyriaethau maeth ac iechyd traddodiadol. Mae tystiolaeth sylweddol o fanteision cynhyrchion bwyd algaidd i iechyd ac mae’r sector yn tyfu gyda buddsoddiad mawr mewn gwyddor algâu ar gyfer bwydydd i bobol a bwydydd anifeiliaid.


4. Llefrith ceirch


Bydd dewisiadau amgen yng nghyswllt llefrith o blanhigion yn parhau i gynyddu mewn poblogrwydd oherwydd y lefel isel o fraster a’r lefel uchel o faetholion planhigion sydd ynddynt. Er mai llaeth soia ac almonau sydd wedi bod y prif fath o laeth o blanhigion yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’n ymddangos mai llaeth ceirch yw'r llaeth dewisol erbyn hyn, ac mae’n ymddangos ar fwydlen amryw o siopau coffi cadwyn fawr ac archfarchnadoedd. Mae llaeth ceirch hefyd yn cyfuno’n dda â bwydydd eraill, sy’n golygu ei fod yn ddewis arall hawdd yn lle llaeth buwch ac yn rhoi darlun gwell o ran ôl troed carbon ac asesiadau cylch bywyd amgylcheddol na llaeth da byw, soia, almon a llaeth reis.


Mae llaeth ceirch yn ychwanegu ansawdd hufennog at ddiodydd, ond eto mae’n dal i fod yn isel o ran braster a siwgr, ac alergenau ac yn uchel o ran beta glucan. Mae 250ml o laeth ceirch yn darparu 1g o feta glucan, sy’n helpu o ran iechyd y system dreulio, iechyd y celloedd ac iechyd y galon.


Mae ceirch, ac maent wedi bod, ar gael yn eang ac mae llawer o nodweddion sy'n hybu iechyd wedi cael eu priodoli iddynt. Mae llawer o waith ymchwil wedi’i gynnal i hyn ar ffurf astudiaethau hirdymor, gan ddileu unrhyw dybiaethau cysylltiedig â’u defnyddio yn y tymor hir.


Nid tuedd o ran bwyd yw hyn mewn gwirionedd, ond tueddiad a fydd yn parhau i dyfu, gyda diddordeb sylweddol chwmnïau bwyd a diod yn dangos diddordeb sylweddol mewn defnyddio'r cyfoeth o geirch sydd ar gael yng Nghymru.


5. Meddyginiaethau naturiol

Gyda mwy a mwy o lyfrau’n ymwneud â ryseitiau ar gyfer meddyginiaethau naturiol, tonigau a thrwythi, rwy’n rhagweld y bydd tonigau iechyd cartref yn duedd newydd. Mae hyn oherwydd bod defnyddwyr am adfer ffyrdd naturiol a llai garw o reoli anhwylderau, ac am wybod beth maent yn ei fwyta a tharddiad eu bwyd. Mae'r ffaith bod cymaint o berlysiau a sbeisys fforddiadwy ar gael mewn archfarchnadoedd, siopau bwyd iach a manwerthwyr ar-lein - yn enwedig tyrmeric, ginseng, gingko biloba, te matcha a sinsir - yn cefnogi'r hen arfer o feddyginiaethau cartref.


Rwy’n rhagweld y bydd y duedd hon yn ddiddordeb atgofus sy’n grymuso y bydd pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd yn ei mabwysiadu, gan ddefnyddio sgiliau ddoe gyda gwybodaeth fotanegol heddiw. Yn ogystal, mae’n gyfle i ganfod neu dyfu elfennau botanegol lleol ar gyfer y diwydiant.


6. Carb isel

Mae ffordd o fyw sy’n canolbwyntio ar garbohydradau isel yn esblygu ac mae'r don newydd o gefnogaeth i'r model deietegol hwn yn gryf iawn, ond nid ar ei ffurf draddodiadol., Nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch yr effaith y mae bwyta lefelau isel o siwgr yn ei chael ar iechyd, ond gyda danteithion melys i'w gweld ym mhob man, mae sector yn dod i’r amlwg sy'n cynnig danteithion â lefelau isel o siwgr a charbohydradau ynddynt sy’n hybu cydymffurfiad tra’n mwynhau byrbrydau a ganiateir.


I nifer gynyddol o ddefnyddwyr, dim ond y dechrau yw mabwysiadu bwydydd isel mewn carbohydradau ac maent yn aml yn ceisio mynd i mewn i faes cetogenesis lle mae pobl yn bwyta cyn lleied o garbohydradau nes bod yn rhaid i'r corff drosi asidau a brasterau amino yn getonau. Mae’r ceto-ddilynwyr teyrngar yn priodoli mwy o egni, mwy o eglurder meddwl a cholli braster i'r deiet. Mae'r mudiad ceto yn dod ag amrywiaeth o fyrbrydau ceto-gyfeillgar yn ei sgil, yn ogystal ag amrywiaeth gynyddol o atchwanegiadau ceto, sef ceto-esterau a halennau ceto sy’n cyflymu'r ffordd mae’r corff yn mabwysiadu'r arfer o ddefnyddio cetonau ar gyfer ynni.


7. Colagen

Colagen yw’r protein mwyaf cyffredin a geir yn y corff dynol, y gewynnau, brasterau, y ligamentau, y celloedd a'r croen. Mae gallu’r corff i gynhyrchu colagen yn lleihau wrth i ni heneiddio, gan arwain at golli elastigrwydd y croen, poen yn yr esgyrn a'r cymalau, a llai o gryfder yn y celloedd. Mae colagen yn ysgogi mwy o golagen ac felly’n cynyddu colagen yn y corff gan wneud i ni edrych yn iachach a rhoi gwell amddiffyniad i gymalau’r corff, ond pan mae'r gwaith o gynhyrchu colagen yn arafu, gall y dirywiad fod yn eithaf cyflym, gan effeithio ar weithgareddau bob dydd.


Mae bwyta bwydydd sy’n uchel mewn colagen, ac atchwanegiadau sy’n cynnwys maetholion i gefnogi’r gwaith o gynhyrchu colagen, yn debygol o fod yn duedd enfawr, er mwyn arafu’r dirywiad a thrwy hynny arafu arwyddion gweledol a ffisegol heneiddio.


 

Drwy’r rhaglen Bwydydd y Dyfodol, mae Natalie yn gweithio gyda nifer o fusnesau Bwyd a Diod yng Nghymru i archwilio cynhwysion gweithredol newydd, datblygu cynnyrch arloesol newydd a chanfod cyfleoedd o fewn y tueddiadau sy’n dod i’r amlwg. Os ydych chi’n fusnes bwyd a diod sydd wedi’i leoli yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd*, a'ch bod yn awyddus i ddysgu mwy am unrhyw rai o’r meysydd y soniwyd amdanynt yn yr erthygl hon, cysylltwch â ni i drafod y cymorth a allai fod ar gael.


Mae Bwydydd y Dyfodol yn rhaglen gydweithredol sy’n galluogi cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru i fod yn fwy cystadleuol a bod yn sail i dwf a chynaliadwyedd yn y dyfodol.


*Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol. Ar gael i gynhyrchwyr Bwyd a Diod masnachol yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.


5 views0 comments
bottom of page