top of page
  • Writer's pictureNatalie Rouse

Gweminar nawr ar gael: Y tueddiadau bwyd a diod iechyd mwyaf dylanwadol ar gyfer 2021

Roedd 2020 yn flwyddyn a wnaeth dod ag iechyd personol i’r amlwg, ac yn sgil hynny, mae wedi cynyddu ymwybyddiaeth pobl o sut mae iechyd unigolion yn effeithio ar y system imiwnedd, ac wedi cynyddu diddordeb mewn mabwysiadu ffyrdd iachach o fyw.

Canolbwyntiodd y weminar hwn ar beth, yn ein barn ni, fydd y tueddiadau bwyd a diod iechyd mwyaf dylanwadol ar gyfer 2021, gan roi sylw i’r canlynol:

  • Tueddiadau sy’n dod i’r amlwg a rhai sy’n bodoli eisoes sy’n debygol o effeithio ar y diwydiant bwyd a diod dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt

  • Dadansoddiad o’r farchnad a gwybodaeth am arferion a ffordd o fyw defnyddwyr

  • Sut mae ffocws defnyddwyr wedi newid o ganlyniad i bandemig COVID-19

  • Cyfleoedd i gynhyrchwyr bwyd a diod gefnogi lles defnyddwyr

Mae recordiad o'r weminar ar gael i'w weld yma:


Lawr lwytho Sleidiau:


210120 ACH V6 Healthy Food Drink Trends
.
Download • 34.01MB

Cynhaliwyd y weminar hon gan Future Foods mewn cydweithrediad ag AHFES. Mae prosiect Eco-Systemau Bwyd Iach Ardal yr Iwerydd (AHFES) yn cefnogi busnesau bach a chanolig i ddod â chynnyrch bwyd a diod iach arloesol newydd i’r farchnad. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd prosiect AHFES, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd dan raglen Interreg Ardal yr Iwerydd, yn cynnig hyfforddiant a chymorth busnes am ddim i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn y Sector Bwyd a Diod Iach.


Os ydych chi'n fusnes bwyd a diod o Gymru sy'n ceisio datblygu cynhyrchion iach sy'n creu'r farchnad, ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael trwy Future Foods, cysylltwch â ni ar futurefoods@bic-innovation.com


3 views0 comments
bottom of page