top of page
  • nicolethomas7

Ymladd llid â bwyd - a oes marchnad?

Mae llid (inflammation) yn ffactor gyffredin mewn llawer o afiechydon heddiw ac o ganlyniad i arferion dietegol gwael, straen a llygryddion amgylcheddol. Am y rhesymau hyn, mae’r farchnad yn tyfu’n gyflym. Yr wythnos hon rydym yn edrych ar lid, pam ei fod yn digwydd, beth all helpu i’w reoli a’r hyn y gall y diwydiant ei wneud i’n cynorthwyo i heneiddio’n iach.

Beth yw llid?


Llid yw’r ymateb sy’n digwydd er mwyn amddiffyn y corff rhag trawma, pathogenau, haint, firysau a/neu wrthrych estron. Mae’r ymateb cyd-gysylltiedig hwn wedi ei gynllunio i gyfyngu ar niwed i’r meinwe, cael gwared â’r gwrthrych estron ac atgyweirio’r celloedd neu’r meinwe a niweidiwyd.


Mae plant ifanc ac oedolion hŷn sy’n dioddef o lid yn tueddu i ddioddef o ddiffyg archwaeth am fwyd. Mae’r diffyg archwaeth hwn, yn ogystal â newidiadau i fetaboledd yr afu, yn creu cydbwysedd nitrogen negyddol, gan achosi colli cyhyrau a gwendid. Gellir lleihau’r dirywiad ym meinwe’r cyhyrau drwy gynnwys mwy o brotein a gwrthocsidydd yn y deiet.


Ar ben hynny, mewn achosion o lid cronig a chlefydau llidol, mae’r corff yn cychwyn ymateb llidiol heb fod unrhyw wrthrych estron na thrawma yn bresennol, nac unrhyw angen am ymateb llidiol. Yn achos llid cronig, mae’r cynnydd yng nghynhyrchiant celloedd imiwnedd, macroffagau a lymffosytau-T yn cynhyrchu cytocinau ac ensymau sy’n arwain at effeithiau niweidiol hirhoedlog i gelloedd a meinwe gan achosi poen, modiwlau ffibrog a chwydd. Mae hyn yn niweidiol i statws iechyd, ac mae’n aml yn cael ei achosi gan fwyta deiet gwael, disymudrwydd a gordewdra.


Enghreifftiau o lid a chlefydau llidiol:

Os cymerir osteoarthritis fel enghraifft, mae osteoarthrosis yn afiechyd llidiol cronig sy’n niweidio’r cymalau yn y corff, a all yn ei dro arwain at ostyngiad yn ystod symudiadau’r claf, chwydd a phoen cronig.

Beth sy’n digwydd i’r corff? Mae’r cartilag yn teneuo ac yn arw, mae’r gewynnau’n tyfu’n stiff a’r esgyrn gwaelodol yn mynd yn fwy trwchus a ffurfir sbardunau esgyrn (Bone spurs). Yng nghyfnod datblygedig yr afiechyd, bydd cartilag yn cael ei golli, gan adael i’r esgyrn rwbio yn erbyn ei gilydd gan gynyddu poen a dirywio’r cymalau’n waeth.


- Caiff osteoarthritis ei drin yn 1/3 yr oedolion 45 oed a hŷn yn y DU

- Mae 98% o’r holl driniaethau i roi pen-glin newydd yn digwydd o ganlyniad i osteoporosis ac mae eu chwarter yn mynd ymlaen i geisio triniaeth ar gyfer cyflyrau’r glun.

- Amcangyfrifir y bydd 8.3 miliwn o oedolion 45-64 oed yn dioddef o osteoporosis y pen-glin erbyn 2035, y ffurf mwyaf cyffredin o osteoporosis.


Ar y cyd â phoblogaeth sy’n heneiddio yn y DU, bydd nifer y bobl sy’n byw gydag osteoarthritis yn cynyddu’n sylweddol.


Deiet a llid


Mae 75% o’r defnyddwyr yn nodi eu bod yn dymuno gwella statws eu hiechyd, ond mae llawer ohonynt yn methu â gwneud hynny oherwydd y blas drwg tybiedig a diffyg cyfleustra cysylltiedig â phrynu. Canfuwyd bod llid tymor hir yn cael ei achosi yn bennaf gan arferion dietegol gwael, yn ogystal â phoblogaethau sy’n cael eu gor-fwydo ond nad ydynt yn cael digon o faeth, gordewdra, dod i gysylltiad â thocsin ac disymudrwydd.


Beth ellir ei wneud i ostwng a rheoli llid?


Ymysg y bwydydd ac echdyniadau sy’n gweithio i ostwng a rheoli llid mae omega 3, asidau brasterog, echdyniadau pinafal, olew CBD, echdyniadau hadau afocado, llugaeron, echdyniadau te, cymysgedd o wrthocsidyddion (fitamin A, C ac E).

Er nad oes arbrofion gwyddonol i gefnogi llawer o’r honiadau hyd yn hyn, maent yn seiliedig ar resymeg gadarn. Fodd bynnag, mae cyfansoddion poblogaidd sydd â chysylltiadau credadwy ag ymchwil ar gael ar y farchnad:


CBD


Mae cysylltiad wedi ei ganfod rhwng CBD a lleihau afiechyd llidiol. Dengys astudiaeth ddiweddar alluoedd posibl CBD i leihau llid am ei fod yn actifadu derbynyddion glycin.


Resveratrol


Mae resveratrol yn wrthocsidydd mewn grawnwin, llys, gwin coch a menyn pysgnau. Mae gwrthocsidyddion yn dal radicalau rhydd ac felly yn lleihau’r niwed a’r llid a achosir ganddynt.


Sinsir


Mae cysylltiad wedi ei weld rhwng sinsir a llai o lid yn y rhai sy’n dioddef o glefyd yr arennau, gostyngiad mewn interleukin 6 a’r cytocinau.


Omega 3


Honnir fod olewau pysgod yn cynorthwyo iechyd y cymalau ers amser maith. Mae’r ymchwil bresennol wedi dangos bod budd o ran lleihau llid yn y galon, diabetes a iechyd y perfedd.


Beth mae hyn yn ei olygu i’r diwydiant?


Mae’n amlwg bod angen bwydydd, diodydd ac ychwanegion cyfleus sy’n cynnwys cyfryngau gwrthlidiol er mwyn gwella iechyd ac safon bywyd potensial llawer o oedolion yn y DU.


Gan fod poblogaeth y DU a’r gorllewin yn heneiddio, wrth i’r achosion ordewdra ac afiechydon anhrosglwyddadwy gynyddu, mae’r galw am fwydydd iachach gyda labeli glân, sydd hefyd yn hawdd dod o hyd iddynt, yn uwch nag erioed. Fel y trafodwyd yn y blog hwn, gall llid achosi gordewdra ond, yn ei dro, gall gordewdra hefyd achosi llid. Mae bwlch yn y farchnad felly i dargedu’r broblem hon sy’n effeithio ar bobl ym mhob rhan o’r wlad.


Gallai ychwanegu cyfansoddion megis spirulina a sinsir, sydd â chysylltiad credadwy â rheoli llid, i’r prif fwydydd hefyd fod yn gyfle i’r rhai sydd eisiau gwneud gwahaniaeth o ran heneiddio’n iach.

5 views0 comments
bottom of page