top of page
  • Writer's pictureNatalie Rouse

Bwyd a Diod – Ymchwil a Datblygu mewn marchnad defnyddwyr sy'n newid

Yn yr oes sydd ohoni, yn amlwg mae'n rhaid delio â heriau dydd i ddydd rhedeg eich busnes bwyd a diod, ond mae llawer o ystyriaethau a phenderfyniadau eraill i'w gwneud er mwyn cefnogi cadernid eich busnes yn y tymor hir.


Mae'n debygol y bydd y diwydiant bwyd a diod yn newid yn barhaol, ac mae diogelu'r cyflenwad bwyd a chynaliadwyedd yn bwysicach nag erioed.


Bydd strategaethau arloesi clir yn helpu i sbarduno adferiad cyflym. Ond efallai y bydd rhaid addasu strategaethau er mwyn ystyried ailgyfeirio cynlluniau ymchwil a datblygu, neu eu haddasu at ddibenion gwahanol, i gyd-fynd â marchnad a gofynion cwsmeriaid sy'n newid.


Mae'r tueddiadau bwyd allweddol wedi parhau i dyfu dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi aros yn gyson, ond mae rhai wedi dilyn cyfeiriad newydd. Fwy nag erioed, mae defnyddwyr a chwsmeriaid yn dechrau troi at arloesedd i gael ysbrydoliaeth ac i ddarparu atebion i'w gofynion sy'n newid – boed hynny mewn cysylltiad ag iechyd, maeth neu fforddiadwyedd.


Wrth i'r pandemig newid y farchnad bwyd a diod i ddefnyddwyr, nid yw'n glir ai newid tymor byr neu dymor hir yw hyn – amser a ddengys. Ond beth sydd yn glir yw bod y pandemig wedi creu cyfleoedd i fusnesau ateb y galw.


Mae Future Foods yn parhau i ddarparu arbenigedd o'r radd flaenaf o ran ymchwil a datblygu ym meysydd gwyddor bwyd, technoleg a maeth, a hynny i fusnesau bwyd a diod uchelgeisiol yng Nghymru sy'n awyddus i ddatblygu cynnyrch iach sy'n creu marchnad.


Byddwn yn cynnal cyfres o weminarau brecwast a fydd yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu, gan edrych ar y tueddiadau arloesi diweddaraf ar y cyd â gofynion defnyddwyr a chwsmeriaid. Bydd y gweminarau'n gyfle i ddechrau trafodaethau, i ystyried syniadau ac i ddatblygu prosiectau ar y cyd o bosib.


Os ydych chi'n weithgynhyrchwr bwyd a diod masnachol yng Nghymru sy'n dymuno cymryd rhan mewn ymchwil a datblygu cydweithredol, gyda'r nod o ddatblygu cynnyrch iach neu wella manteision maethlon eich cynnyrch presennol, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

6 views0 comments
bottom of page